Sgwrs efo Meilir Rhys Williams, un o sêr y ddrama Rownd a Rownd

Mae Meilir Rhys Williams yn chwarae Rhys yn y gyfres ddrama, Rownd a Rownd, sy’n cael ei darlledu ar S4C bob nos Fawrth a nos Iau am 6.30 p.m. Cawsom gyfle i gael sgwrs â fo am ei yrfa actio a bywyd tu ôl i lenni Rownd a Rownd!

Meilir Rhys Williams plays Rhys in the drama Rownd a Rownd, which is broadcast on S4C every Tuesday and Thursday evening at 6:30 p.m. We had a chance to talk to him about his acting career and life behind the scenes of Rownd a Rownd!

For learners: Below each paragraph is a list of useful vocabulary that should help you read the interview without having to look up words in your dictionary every two seconds! 😉


1. O ble rwyt ti’n dod a beth yw dy gefndir?

Ces i fy ngeni a fy magu yn Llanuwchllyn ger y Bala. Mi symudais i Lerpwl i astudio diploma yn y celfyddydau perfformio yn y Liverpool Institute for Performing Arts cyn symud i lawr i Lundain i gyflawni gradd mewn actio yn y Royal Central School of Speech and Drama. Bellach rwyf yn byw yn ôl yng Ngogledd Cymru.

Vocabulary / Geirfa:

  • cefndir = background
  • magu = to raise, bring up
  • celfyddydau perfformio = performing arts
  • symud = to move
  • astudio = to study
  • cyflawni = accomplish, achieve, fulfil
  • gradd = degree
  • bellach = now

2. Pryd a lle wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?

Rwyf yn defnyddio’r Gymraeg i wneud bob dim, bob dydd. Sgwrsio efo fy ffrindiau a fy nheulu, yn y gwaith, wrth siopa…bob man! Rwyf yn ceisio dechrau bob sgwrs yn Gymraeg pan yn siopa.

Vocabulary / Geirfa:

  • defnyddio = to use
  • bob dim = everything
  • teulu = family
  • ceisio = to try
  • dechrau = to start

3. Sut gest ti dy ysbrydoli i fod yn actor?

Roeddwn i wrth fy modd yn perfformio yn yr ysgol yn y sioeau Nadolig. Roeddwn yn cymryd rhan ym mhob clwb drama a chystadlu ar yr ymgom mewn Eisteddfodau. Yna fe wnes i ymuno efo Ysgol Theatr Maldwyn sef clwb drama ar ôl ysgol er mwyn gwella fy sgiliau perfformio.

Vocabulary / Geirfa:

  • ysbridoli = to inspire
  • wrth fy modd = to love (first person)
  • sioeau = shows
  • Nadolig = Christmas
  • cymryd rhan = to take part, participate
  • cystadlu = to compete
  • ymgom = dialogue
  • ymuno = to join
  • er mwyn = in order to
  • gwella = to improve
  • sgiliau = skills

4. Beth oedd dy brofiad cyntaf efo’r byd actio?

Y swydd gyntaf broffesiynnol ges i ar ôl graddio fel actor oedd rhan mewn drama o’r enw ‘Over Gardens Out’ yn y Riverside Studios yn Hammersmith, Llundain. Drama oedd hi gan ddramodydd Cymraeg, Peter Gill, am fachgen ifanc eisiau dianc o’i gartref yng Nghaerdydd. 

Vocabulary / Geirfa:

  • profiad cyntaf = first experience
  • swydd = job
  • graddio = to graduate
  • proffesiynnol = professional
  • dramodydd = playwright
  • bachgen ifanc = young boy
  • dianc = to escape

5. Beth wyt ti’n mwynhau fwyaf am weithio ar Rownd a Rownd?

Rwyf wrth fy modd yn gweithio efo’r criw o flaen a tu ôl y camera. Mae cwmni Rownd a Rownd yn un teulu mawr ac rydym yn cael llawer o hwyl yn ffilmio efo’n gilydd. Mae’n hwyl cael ffilmio straeon na fyswn i fel Meilir yn ei wneud yn fy mywyd go iawn. Mae wastad yn hwyl cael actio efo cymeriad Yncl Arthur gan ei fod mor ddoniol.

Vocabulary / Geirfa:

  • mwynhau = to enjoy
  • mwyaf = the most
  • o flaen a tu ôl = behind and in front of
  • teulu = family
  • efo’n gilydd = together
  • straeon = stories
  • bywyd go iawn = real life
  • wastad = always
  • cymeriad = character
  • doniol = funny

6. Beth yw’r peth gorau am chwarae Rhys ar Rownd a Rownd?

Fy hoff beth am chwarae Rhys ar Rownd a Rownd yw ei fod yn gymeriad ofnadwy o garedig. Mae’n ceisio gofalu am bawb ac yn cynnig cyngor a chymorth os bydd rhywun angen. Dydw i fel Meilir yn gwybod dim am geir chwaith felly mae’n ddefnyddiol cael gweithio mewn garej i ddod i ddeall sut ma ceir yn gweithio go iawn!

Vocabulary / Geirfa:

  • gorau = the best
  • hoff = favourite
  • ofnadwy o garedig = extremely kind
  • gofalu am = to look after, care for
  • cyngor = advice
  • cymorth = help, aid
  • defnyddiol = useful
  • chwaith = either

7. Sut oedd y profiad o fod yn un o’r cyflwynwyr ar S4C yn yr Eisteddfod Cenedlaethol eleni?

Roedd yn brofiad nerfus tu hwnt ar y dechrau. Dwi wrth fy modd yn gwylio rhaglen yr Eisteddfod felly roedd yn fraint cael bod yn rhan ohoni. Roeddwn i yn gweithio efo tîm anhygoel o gyflwynwyr – Nia Roberts, Heledd Cynwal, Iwan Griffiths, Tara Bethan a Ffion Dafis. Roeddwn nhw i gyd mor garedig ac yn rhoi tips a chymorth i mi. Fe wnes i fwynhau cael cerdded o gwmpas y maes yn siarad efo gwahanol bobl a gweld gwahanol bethau. Ac roedd yn golygu fod rhaid i mi fynd i fy ngwely yn gynnar bob nos felly dim nosweithiau hwyr!

Vocabulary / Geirfa:

  • cyflwynwyr = presenters
  • nerfus tu hwnt = extremely nervous
  • rhaglen = show, programme
  • braint = privilage
  • anhygoel = amazing
  • gwahanol = different
  • golygu = to mean (something)
  • rhaid i mi = I have to
  • cynnar = early

8. Pa brosiectau eraill wyt ti’n gweithio arnynt ar hyn o bryd?

Mi fydda i yn cyfarwyddio sioe Ysgol Haf Galeri diwedd mis Awst. Cwrs un wythnos ydy o lle fydda i yn gweithio efo criw o blant a phobl ifanc i lwyfannu sioe gerdd mewn 6 diwrnod. Mi fydd yn lot o waith ond hefyd lot o hwyl, dw i’n siwr. Mi fydd hi’n cael ei pherfformio yn Galeri diwedd Awst.

Vocabulary / Geirfa:

  • eraill prosiectau = other projects
  • cyfarwyddio = to direct
  • wythnos = week
  • lwyfannu = to stage
  • sioe gerdd = a musical
  • diwrnod = day
  • cael ei pherfformio = to be performed

9. Beth wyt ti’n gwneud yn dy amser sbar?

Rydw i wrth fy modd yn mynd i gerdded yn fy amser sbar. Gan fod fy swydd yn golygu mod i’n gweld lot o bobl drwy’r amser, mae’n neis weithiau jest mynd i gerdded i’r wlad i gael ychydig o dawelwch. Dw i hefyd yn hoff o gadw’n heini. Roeddwn i’n arfer CASAU mynd i’r gym, ond dros y blynyddoedd dw i wedi dod i fwynhau mynd.

Vocabulary / Geirfa:

  • amser sbar = free time
  • cerdded = to walk
  • weithiau = sometimes
  • gwlad = countryside
  • ychydig = a little bit
  • tawelwch = quiet, calm
  • cadw’n heini = to keep fit
  • casáu = to hate
  • blynyddoedd = years

10. Beth yw dy hoff fand/gerddor Cymraeg?

Dw i’n hoff o lot o gerddoriaeth gwahanol. O Siân James i Chroma. Ar y funud, dw i’n gwrando ar albwm newydd Carwyn Ellis – ‘Carwyn Ellis & Rio 18’, senglau newydd Mared Williams, Pys Melyn, Bwncath, Serol Serol, Bitw a Gwilym.

Vocabulary / Geirfa:

  • cerddor = musician
  • hoff o = to like
  • cerddoriaeth = music
  • gwrando ar = listen to

11. Oes gen ti unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?

Tria fwynhau’r profiad o ddysgu gymaint a phosib! Ceisia roi dy hun mewn sefyllfaoedd ble mae llawer o gyfle i ti ymarfer dy Gymraeg. A paid byth a bod ofn gwneud camgymeriad – dydyn nhw dddim yn bwysig! Drwy wneud camgymeriadau yr ydyn ni’n dysgu, felly bydd yn hyderus. Rho Radio Cymru ymlaen yn tŷ ac S4C ar y teledu. Yna mi fyddi di wastad yn clywed y Gymraeg er mwyn cadw’r geiriau newydd Cymraeg yn ffres ym mlaen dy feddwl di.

Vocabulary / Geirfa:

  • cymaint a phosib = as much as possible
  • sefyllfaoedd = situations
  • cyfle = chance
  • ymarfer = to practise
  • bod ofn = be afraid
  • camgymeriad = mistake
  • pwysig = important
  • hyderus = confident
  • rhoi ymlaen = put on, turn on
  • clywed = to hear
  • cadw = to keep
  • geiriau = words
  • ffres = fresh
  • meddwl = mind

Dilynwch Meilir Rhys Williams ar Twitter!


About The Author

Heather is passionate about everything language-related. Born and raised in Toronto, Canada, she holds a TEFL certification from Aberystwyth University and a Bachelor's degree in Linguistics from the University of Western Ontario. Along with her native English, she speaks Italian, Welsh, and a smattering of Japanese and French.